Y Pwyllgor Cyllid

 

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch

 

Papur i'w nodi:  y wybodaeth ddiweddaraf

 

Dyddiad y papur

25 Medi 2013

 

 

 

Gwybodaeth Berthnasol

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ymgynghoriad ar Gyllido Addysg Uwch, 8 Gorffennaf 2013

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Holiadur i fyfyrwyr addysg uwch, 8 Gorffennaf 2013

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Holiadur i fyfyrwyr blynyddoedd 12 a 13, 8 Gorffennaf 2013

 

 


Paratowyd y nodiadau briffio hyn gan y Gwasanaeth Ymchwil i'w defnyddio gan y Pwyllgor Cyllid.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jones o'r Gwasanaeth Ymchwil drwy ffonio estyniad 8206

e-bost: helen.jones@cymru.gov.uk

Description: \\GBA01\Home\OrrR\My Pictures\MRS2.PNG



1.        Nod

Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ymchwiliad y pwyllgor i gyllido addysg uwch.

2.        Cefndir

Diben yr ymchwiliad hwn yw rhoi ystyriaeth i gyllido Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, i effaith ariannol polisi grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar sefydliadau addysg uwch a myfyrwyr yng Nghymru, a gofyn i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru'n darparu gwerth am arian yn y maes hwn.

Cytunwyd ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hwn yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 24 Ebrill 2013.  Hefyd, rhoddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sesiwn friffio breifat i'r Pwyllgor Cyllid ar 10 Gorffennaf 2013, yn amlinellu sut mae Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) yng Nghymru yn cael eu hariannu.

3.        Gwaith ymgynghori a wnaed hyd yn hyn

Hyd yma, mae'r gweithgareddau ymgynghori canlynol wedi cael eu cynnal, neu maent wedi'u trefnu:

A. Holiadur i sefydliadau

Cafodd e-bost yn gwahodd sefydliadau i ymateb i'r ymchwiliad ei anfon yn gynnar ym mis Gorffennaf a rhoddwyd gwybodaeth gyfatebol ar wefan y Cynulliad. Anfonwyd e-bost atgoffa ar 13 Medi 2013 ac rydym yn disgwyl cael ymatebion yn agos at y dyddiad cau ar 27 Medi 2013.

B. Holiadur ar gyfer myfyrwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch

Mae fersiynau papur ac ar-lein o'r holiadur wedi cael eu dosbarthu i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 1 a 2 mewn sefydliadau addysg uwch o fewn radiws 100 milltir o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae amryw o sianeli cyfathrebu wedi cael eu defnyddio gan y tîm allgymorth i roi cyhoeddusrwydd i'r holiadur, gan gynnwys presenoldeb y Cynulliad mewn sioeau haf a chyfrifon Twitter a Facebook y Cynulliad. Mae cyswllt uniongyrchol yn cael ei wneud gyda sefydliadau addysg uwch a'r trydydd sector. Yn ogystal, mae'r tîm wedi mynychu diwrnodau agored a ffeiriau glasfyfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch. Lansiwyd yr holiadur yn gynnar ym mis Gorffennaf a bydd yn dod i ben ar 25 Hydref 2013. Hyd yma, mae 187 o ymatebion wedi dod i law. Y targed ar gyfer nifer yr ymatebion yw 400.

C. Holiadur ar gyfer myfyrwyr ym mlynyddoedd 12 a 13

Mae fersiynau papur ac ar-lein o'r holiadur wedi cael eu dosbarthu i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion yng Nghymru.  Mae'r un sianelau cyfathrebu wedi cael eu defnyddio i hyrwyddo'r holiadur hwn, gan gynnwys targedu myfyrwyr sydd ar ymweliadau addysgol â'r Senedd. Lansiwyd yr holiadur yn gynnar ym mis Gorffennaf a bydd yn dod i ben ar 25 Hydref 2013. Hyd yma, mae 330 o ymatebion wedi dod i law. Y targed ar gyfer nifer yr ymatebion yw 400.

4.         Gwaith yn y dyfodol

Ch. Canlyniadau

Byddwn yn dadansoddi canfyddiadau'r holiadur i sefydliadau a'r ddau holiadur i fyfyrwyr ac yn cyflwyno adroddiad arnynt cyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 7 Tachwedd 2013.

D. Sgyrsiau ar y we

Mae'r tîm allgymorth yn anelu at recriwtio myfyrwyr AU ar gyfer dwy sgwrs ar y we. Bydd un grŵp yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn Sefydliadau Addysg Uwch yn Lloegr a bydd y llall yn cynnwys myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn SAU yng Nghymru. Bydd uchafswm o chwech o fyfyrwyr ym mhob grŵp. Byddan nhw'n cael eu harwain gan Aelodau'r Cynulliad ac yn cael eu hwyluso gan y Gwasanaeth Ymchwil a'r Tîm Allgymorth. Y nod yw cynnal y sgyrsiau tua diwedd mis Tachwedd.

Dd. Sesiynau i dystion

i) Rydym yn bwriadu ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau gyda rhai cwestiynau cychwynnol sy'n deillio o'r ymgynghoriad, er mwyn cael ymateb erbyn dechrau mis Tachwedd.

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad cyn penderfynu ar dystion. Rydym wedi neilltuo amser ar dri dyddiad i glywed tystiolaeth. Fodd bynnag, nid ydym wedi cysylltu ag unrhyw dystion.

ii) 13 Tachwedd – e.e. Prifysgolion gyda ffocws ymchwil, prifysgolion eraill, Addysg Uwch Cymru a CCAUC

iii) 27 Tachwedd - e.e. Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr / Gyrfa Cymru neu randdeiliaid eraill

iv) 12 Rhagfyr - Y Gweinidog Addysg a Sgiliau (mae'n debyg)

E. Yr Adroddiad Terfynol

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei ysgrifennu erbyn diwedd mis Ionawr / dechrau mis Chwefror.